Lyrics
Fe hwyliwyd llestar egwan
Nid wyf yn enwi hon
Fe aeth y ddinas Bangor
Ei thaith oedd dros y don
So happy we are all my boys
Happy we are all
Rwy'n disgwyl caf eich gweled chi
Ar lannau Cymru 'n ol
Roedd arni un ar bymtheg
O Gymry oll i gyd
Yn hwylio o afon Menai
I deithio'r Newydd Fyd
So happy we are all my boys
Happy we are all
Rwy'n disgwyl caf eich gweled chi
Ar lannau Cymru 'n ol
Y gwynt a ddaith i chwythu
Yn ffafriol ar ein rhan
Gadawsom Ynys Seiriol
A'r peilat aeth i'r lan
So happy we are all my boys
Happy we are all
Rwy'n disgwyl caf eich gweled chi
Ar lannau Cymru 'n ol
Aeth heibio pen Caergybi
I lawr i'r culfor cas
Diflannodd bryniau Cymru
A thir Iwerddon las
So happy we are all my boys
Happy we are all
Rwy'n disgwyl caf eich gweled chi
Ar lannau Cymru 'n ol
Cawn bwdin reis dy' Sadwrn
Nes byddwn bron yn dall
Syrthio i lawr y fforcias
Naill ar ol llall
So happy we are all my boys
Happy we are all
Rwy'n disgwyl caf eich gweled chi
Ar lannau Cymru 'n ol
MICHAEL BROOKS
Songtrust Ave