Lyrics
Dwedwch fawrion o wybodaeth
O ba beth a gwnaethpwyd hiraeth
A pha ddefnydd a roedd ynddo
Na ddafyddo wrth ei wisgo ?
Derfydd aur a derfydd arian
Derfydd melfed derfydd sidan
Derfydd pob dilledyn helaeth
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth
Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Hiraeth sydd yn torri'n 'nghalon
Pan fwy' dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry
Hiraeth hiraeth cilia cilia
Paid a phwyso mor drwm arna'
Nesa dipyn at y erchwyn
Gad i mi gael cysgu gronyn
GREG COURTNEY, MICHAEL BROOKS, WILLIAM MORRISON
Songtrust Ave